Dweud eich dweud cyn cyllideb nesaf y Cyngor02 Rhagfyr 2025
Mae’r amser wedi dod eto i ddechrau paratoi ar gyfer gosod Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026-27. Mae gosod cyllideb gytbwys yn ofyniad cyfreithiol, ond gyda chostau cynyddol, mae’n dod yn anoddach bob blwyddyn heb gyfaddawdu ar ein gwasanaethau hanfodol. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio ymgyrch Ymgysylltu â’r Gyllideb i gasglu eich barn ar sut y dylai’r Cyngor wario ei arian a sut i lywio trwy’r heriau ariannol sy’n ein hwynebu. Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae gosod cyllideb gytbwys yn profi’n heriol flwyddyn ar ôl blwyddyn, a hynny ar ôl setliad gwael arall gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae cyflawni’r gyllideb mewn ffordd sy’n cynnal ein gwasanaethau yn fater o gydbwyso, ac nid ydym am gyfaddawdu ar y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig. Gyda chostau yn codi oherwydd yr argyfwng costau byw ac effaith chwyddiant, rydym ar hyn o bryd yn wynebu bwlch yn y gyllideb, ac mae cynnydd yn y Dreth Gyngor yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei ystyried. Felly, hoffwn glywed gennych chi. Yn gyntaf, rhowch gynnig ar gydbwyso cyllideb y Cyngor gyda’n hefelychydd cyllideb. Yna, cyflwynwych eich sylwadau trwy’r holiadur ar-lein gan y byddwn yn ystyried y canlyniadau wrth i ni baratoi cylldeb 2026-2027.” Rhowch gynnig ar ein teclyn efelychydd cyllideb i geisio cydbwyso cyllideb y Cyngor: clic-budgetengage-eform, ac yna cyflwynwch eich barn trwy’r arolwg ar-lein: Ymgysylltu am Gyllideb 2026/27 Cyngor Sir Ceredigion 

Bydd copïau papur o’r arolwg hefyd ar gael yn eich Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy wefan y Cyngor: Cyllideb 2026-27 Cyngor Sir Ceredigion – Cyngor Sir Ceredigion 

Gwyliwch y fideo hwn, sy’n esbonio’n fanwl, sut mae’r Cyngor yn gwario ei arian: Pe bai Cyllideb y Cyngor yn £10 | Cyngor Sir Ceredigion 

Cymerwch olwg hefyd ar ein cyfres o Gwestiynau Cyffredin sydd ar gael ar ein gwefan: Cyllideb 2026-27 Cyngor Sir Ceredigion – Cyngor Sir Ceredigion 
Linc ar-lein: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/newyddion/2025/dweud-eich-dweud-cyn-cyllideb-nesaf-y-cyngor/ 
Have your say ahead of the next Council Budget02 December 2025
The time has come again to start preparing for setting the Council Budget for 2026-27.Setting a balanced budget is a legal requirement, but with rising costs, it becomes more difficult every year without compromising our essential services.Ceredigion County Council has launched a Budget Engagement exercise to gather your views on how the Council should spend its money and how to navigate the financial challenges we face.Councillor Bryan Davies, Leader of Ceredigion County Councill, said: “Setting a balanced budget is proving challenging year on year, after yet another poor settlement by Welsh Government for the year ahead. Delivering the budget in a way that maintains our services is a balancing act, and we don’t want to compromise on the services that we offer. With costs going up due to the cost-of-living crisis and the impact of inflation, we’re currently facing a budget gap, and an increase in Council Tax is something we have to consider. So, I would like to hear from you. Firstly, have a go at balancing the Council budget with our budget simulator. Then, please submit your responses through the online survey as the results will be taken into consideration as we prepare for the 2026-2027 budget”.Have a go with our budget simulator tool to try and balance the Council budget: clic-budgetengage-eform, and then submit your views through an online survey: Ceredigion County Council 2026-27 Budget Engagement

Paper copies of the survey will also be available in your local Library or Leisure Centre or through the Council’s website: Ceredigion County Council budget 2026-27 – Ceredigion County Council

Watch this video, which explains in detail, how the Council spends its money: If the Council Budget Was a £10 Note | Ceredigion County Council

Please also take a look at our series of Frequently Asked Questions which are available on our website: Ceredigion County Council budget 2026-27 – Ceredigion County Council

Online Link: www.ceredigion.gov.uk/resident/news/2025/have-your-say-ahead-of-the-next-council-budget/
Categories: News


Datblygwyd y wefan gan | Website developed by Elfed Jenkins