Green GEN Cymru: Diweddariad ar ein prosiect Tywi Teifi

 Mewn ymateb i’ch adborth i’n hymgynghoriad diwethaf, rydym yn cynnig diweddaru prosiect Tywi Teifi i leihau cyfanswm y peilonau, ychwanegu mwy o waith tanddaearu, cyflwyno adran polion pren, a’i symud i ffwrdd oddi wrth nifer o drefi a phentrefi. Gwnaethoch anfon adborth gwerthfawr ac adeiladol atom a gofyn i ni ystyried sut y gallai’r prosiect effeithio ar gymunedau cyfagos, yr amgylchedd a’r dirwedd o’i gwmpas. Rydym yn ddiolchgar am yr ymgysylltiad, ac mae’r diweddariadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gydweithio â phreswylwyr a rhanddeiliaid i leihau’r effeithiau posibl mewn meysydd a nodwyd gennych fel rhai pwysig.  Rydym yn cynnig cysylltiad trydan 132kV newydd rhwng Parc Ynni Lan Fawr, i’r dwyrain o Landdewi Brefi, Ceredigion, ag is-orsaf Grid Cenedlaethol newydd yn Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ymgynghoriad anstatudol cam dau yng ngwanwyn 2025. Mae eich cyfraniadau’n helpu i gryfhau prosiect sy’n gweithio i’r rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn mwynhau gweithgareddau hamdden ger ein cynigion.  O ganlyniad i’r cyfraniadau hyn, yn ogystal ag asesiadau ac adborth pellach gan randdeiliaid technegol, rydym yn cynnig rhai diweddariadau i brosiect Tywi Teifi. Ymhlith y newidiadau arfaethedig mae estyniadau i’n dwy ran o waith tanddaearu ger Bryn Myrddin a Llandyfaelog; llwybr newydd yn Adran Un ymhellach i ffwrdd oddi wrth Lanfair Clydogau, Cellan a Llanbedr Pont Steffan; a rhan newydd o bolion pren i gysylltu Parc Ynni Lan Fawr. Ceir isod ragor o wybodaeth am y newidiadau hyn, gan gynnwys mapiau wedi’u diweddaru.  Gwyddom ba mor bwysig yw eich hysbysu o ddatblygiadau’r prosiect, felly roeddem yn awyddus rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf hon â chi cyn gynted â phosibl.  Byddwn yn ymgynghori ar y newidiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwnnw byddwn yn cynnal ymgynghoriad arall gyda gwybodaeth fanwl am yr holl ddiweddariadau i’r llwybr a digwyddiadau cyhoeddus, lle bydd cyfle i chi gwrdd â thîm y prosiect a dweud eich dweud.  Yn y cyfamser, rydym yn ymgysylltu â thirfeddianwyr ynghylch y diweddariadau rydym yn eu cynnig ac yn parhau i gwblhau arolygon amgylcheddol ar draws prosiect Tywi Teifi.  Rydym yn deall efallai fod gennych gwestiynau am y wybodaeth rydym yn ei rhannu. Gallwch ffonio llinell gymorth y prosiect ar 08009152496 neu e-bostio ni yn info@greengentowyteifi.com gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych.  Gweler rhagor o wybodaeth yn ymwneud â’n llwybr wedi’i ddiweddaru, gan gynnwys mapiau newydd, ar wefan ein prosiect www.greengencymru.com/towy_teifi/overiew/  
Green GEN Cymru: An update on our Towy Teifi project

In response to your feedback to our last consultation, we’re proposing to update the Towy Teifi project to reduce the total number of pylons, add more undergrounding, introduce a wood pole section and move it away from a number of towns and villages. You sent us valuable, constructive feedback and asked us to consider how the project might impact nearby communities, the environment, and the surrounding landscape. We’re grateful for the engagement, and these updates reflect our commitment to collaborating with residents and stakeholders to reduce the potential effects in areas you’ve identified as important.  We are proposing a new 132kV electricity connection between Lan Fawr Energy Park, located east of Llanddewi Brefi, Ceredigion, to a new National Grid substation at Llandyfaelog, Carmarthenshire.  We would like to thank everyone who took part in our phase-two non-statutory consultation in spring 2025. Your contributions are helping to strengthen a project that works for those who live, work and enjoy recreation near our proposals.  As a result of these contributions, as well as further assessments and feedback from technical stakeholders, we are proposing some updates to the Towy Teifi project. Among the proposed changes are extensions to our two sections of undergrounding near Merlins Hill and Llandyfaelog; a new route in Section One further away from Llanfair Clydogau, Cellan and Lampeter; and a new section of wood poles to connect Lan Fawr Energy Park. Further information on these changes, including updated maps, can be found below.  We know how important it is to keep you informed of project developments, so we wanted to share this latest update with you as soon as possible.  We will be consulting on the changes later in the year, during which we will be hosting another consultation with detailed information on all route updates and public events, where you will have the opportunity to meet the project team and have your say.  In the meantime, we are engaging with landowners about the updates we are proposing and continue to complete environmental surveys across the Towy Teifi project.  We understand you may have questions about the information we’re sharing. You can call our project hotline 08009152496 or email us info@greengentowyteifi.com with any questions you may have. Further information concerning our updated route, including new maps, is available to view on our project website www.greengencymru.com/towy_teifi/overiew/ 
Categories: Newyddion


Datblygwyd y wefan gan | Website developed by Elfed Jenkins