Ychydig wythnosau yn ôl, rhannwyd gyda chi ein bod yn ceisio barn staff ac aelodau o’n cymunedau am dri safle posibl ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd, fel rhan o’n strategaeth ehangach i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 23 Chwefror, a gwahoddwyd unigolion a sefydliadau i rannu eu barn ar y rhestr fer o safleoedd erbyn 19 Mai 2023.

Rydym wedi bod yn ymgysylltu ag unigolion a grwpiau trwy ein digwyddiadau ymgynghori yn bersonol ac ar-lein. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi dod draw i rannu eu barn a gofyn cwestiynau.

Rydym yn falch o rannu ein bod wedi trefnu pedwar digwyddiad galw heibio cyhoeddus ychwanegol, a digwyddiad ar-lein. Mae’r manylion wedi eu rhannu gyda’r wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol, a hoffem rannu’r manylion hyn gyda chi. 

Dydd Gwener 28 Ebrill, 2pm-7pm – Canolfan Gymunedol Phoenix, 1 Heol Wern, Wdig SA64 0AA
Dydd Iau 4 Mai, 2pm-7pm – Canolfan Gymdeithasol Pill, Cellar Hill, Aberdaugleddau, SA73 2QT
Dydd Mawrth 9 Mai, 2pm-7pm – Gwesty’r Castell, Ffordd y Brenin, Llanymddyfri SA20 0AP
Dydd Iau 11 Mai, 2pm-7pm – Neuadd Fictoria, Heol y Bryn, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7EE
Dydd Mawrth 16 Mai, 6:30pm – Ar-lein, cofrestrwch ar ein gwefan.

Mae manylion y rhain, ynghyd â’r dogfennau ymgynghori a’r holiadur, ar gael ar ein gwefan: https://biphdd.gig.cymru/safle-ysbyty-newydd/

Additional dates added to Hywel Dda consultation on new planned and urgent care hospital

A few weeks ago, we shared with you that we are seeking the views of staff and members of our communities about three potential sites for a new planned and urgent care hospital, as part of our wider strategy to improve health and care in the region. The consultation was launched on 23 February, and individuals and organisations are invited to share their opinions on the shortlist of sites by 19 May 2023.

We have been engaging with individuals and groups through our consultation events both in-person and online. We are grateful to everyone who has come along to share their views and ask questions.

We are pleased to share that we have arranged an additional four public drop-in events, and an online event. These details have been shared with the media and on social media, and would like to share these details with you. 

Friday 28 April, 2pm-7pm – Phoenix Community Centre, 1 Wern Rd, Goodwick SA64 0AA
Thursday 04 May, 2pm-7pm – Pill Social Centre, Cellar Hill, Milford Haven, SA73 2QT
Tuesday 09 May, 2pm-7pm – The Castle Hotel, Kings Road, Llandovery SA20 0AP
Thursday 11 May, 2pm-7pm – Victoria Hall, Bryn Road, Lampeter, SA48 7EE
Tuesday 16 May, 6:30pm – Online – please register on our website

Details of these events, together with the consultation documents and questionnaire, are available on our website: https://hduhb.nhs.wales/new-hospital-site

Categories: Newyddion


Datblygwyd y wefan gan | Website developed by Elfed Jenkins