Canllawiau Cau Ffyrdd ar gyfer Digwyddiadau Arbennig Sefydlog neu Symudol.

Y mae erbyn hyn yr amser pan fydd Cynghorau Tref a Chymuned yn meddwl am drefnu digwyddiad dathlu neu ddigwyddiad cymdeithasol ar briffordd yng Ngheredigion ac hoffem achub ar y cyfle yma i’ch atgoffa y bydd angen i unrhyw ddigwyddiad sy’n cynnwys oedi neu atal traffig ar briffordd caiff ei chynnal a’i chadw’n gyhoeddus gael ei gofrestru gyda’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylchedd drwy’r Adran Cau Ffyrdd gan gynnwys cais am Orchymyn Cau Ffyrdd Digwyddiad Arbennig.

Gallwch gael gafael ar Orchymyn Cau Ffyrdd Digwyddiadau Arbennig a Nodiadau Canllawiau ar wefan y Cyngor:

http://www.ceredigion.gov.uk/resident/travel-roads-parking/roadworks/road-closures/

Argymhellir eich bod yn cymryd yr amser i ddarllen y nodiadau canllawiau ar y wefan cyn cynllunio digwyddiad fydd i’w gynnal ar y briffordd, os yw’n ddigwyddiad Sefydlog neu Symudol.

Mae’r Nodiadau Canllawiau yn amlygu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan yr Awdurdod Priffyrdd oddi wrth y trefnydd / ymgeisydd a’r amserlen i’w ddarparu.  Fel y nodwch yn y Nodiadau Canllawiau bydd angen o leiaf rhybudd o 12 wythnos arnom i brosesu cais.

Dylech nodi nad oes gan yr heddlu/stiwardiaid/ marsialiaid y pŵer i oedi nac atal traffig ar gyfer Digwyddiad Arbennig ond bai fod Gorchymyn Traffig mewn lle.  Mae’n bosib y gall Heddlu Dyfed Powys gynnig cefnogaeth ond os nad oes Gorchymyn mewn lle ond mae eu pwerau’n gyfyngedig.

Mae’n werth nodi y gall y gefnogaeth yma gael ei thynnu yn ôl ar y funud olaf os bydd sefyllfa brys yn codi rhywle arall.  Mae hyn yn pwysleisio’r angen i chi sicrhau / trefnu y bydd gennych ar gael gefnogaeth ychwanegol o ran stiwardiaid / marsialiaid achrededig / profiadol.

Bydd cynnal digwyddiad ar y briffordd heb Gorchymyn mewn lle yn gweithredu’n groes i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 a dyletswyddau Awdurdod Priffyrdd. https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2004/18/section/16 .

Mae’n bosib y bydd digwyddiadau a gynhelir ar y Briffordd heb Orchymyn mewn lle yn golygu y bydd trefnwyr y digwyddiad yn agored i hawliadau cyfreithiol neu hawliadau yswiriant o ganlyniad i ddamwain neu niwed ac mi all hyn olygu camau cyfreithiol yn erbyn trefnwyr y digwyddiad gan yr Awdurdod Priffyrdd am weithred anghyfreithiol o rwystro. Noder nad oes yn rhaid i’r Awdurdod Priffyrdd ddarparu gorchymyn ar gyfer cau’r ffordd ac y mae hawl ganddo wrthod cais.

Diolch am ddarllen y wybodaeth yma ac edrychwn ymlaen i dderbyn eich ceisiadau yn y dyfodol.

Categories: Newyddion


Datblygwyd y wefan gan | Website developed by Elfed Jenkins