Galwad i Weithredu | Call to Action

Annwyl Gydweithwyr a Phartneriaid,

Rydym yn falch o rannu bod Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi lansio ymarfer ymgysylltu ledled y sir i lywio datblygiad Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd ar gyfer Ceredigion. Mewn ymateb i’r cadarnhad diweddar gan Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y gellir ei gyrchu yma Datganiad Ysgrifenedig: Corff cenedlaethol a fframwaith statudol ar gyfer gwaith ieuenctid – rydym yn falch ein bod bellach yn gallu symud ymlaen i ymgysylltu â phobl ifanc a’n partneriaid allweddol i ddatblygu cynllun strategol pum mlynedd ar gyfer Gwaith Ieuenctid, a fydd yn cryfhau gwasanaethau ieuenctid yng Ngheredigion. Gallwch ddarllen mwy am y cyfeiriadau a’r canllawiau statudol yma Gwaith ieuenctid yng Nghymru: cyflawni dros bobl ifanc.Mae ein strategaeth pum mlynedd newydd yn gyfle hanfodol i lunio dyfodol gwaith ieuenctid yng Ngheredigion, gan sicrhau ei bod yn adlewyrchu lleisiau pobl ifanc, anghenion cymunedau lleol, a blaenoriaethau partneriaid ar draws y sectorau statudol, gwirfoddol a chymunedol.Rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle i ymgysylltu â phobl ifanc ynglŷn â’n tîm cyfiawnder ieuenctid, sydd bellach yn rhan o’r gwasanaeth ieuenctid ehangach.Fel partner allweddol, mae eich cefnogaeth yn hollbwysig. Gofynnwn yn garedig i chi:Cwblhau’r holiadur ymgysylltiad eich hunainRhannu’r ddolen o fewn eich rhwydweithiau a phobl ifancAnnog pobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, gweithwyr proffesiynol a chymunedau i gymryd rhanBydd pob ymateb yn dylanwadu’n uniongyrchol ar:       – Gyfeiriad strategol y Gwasanaeth Ieuenctid       – Blaenoriaethau buddsoddi yn y dyfodol       – Datblygu darpariaeth ieuenctid gynhwysol, berthnasol ac wedi’i seilio ar dystiolaethI gael y manylion llawn ac i gael mynediad at yr arolygon ymgysylltu, ewch i: Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn lansio ymgysylltiad i lunio strategaeth newydd – Cyngor Sir CeredigionByddem yn hynod ddiolchgar am eich cymorth i hyrwyddo’r cyfle hwn yn weithredol, gan sicrhau ein bod yn clywed gan ystod mor eang ac amrywiol â phosibl o leisiau ar draws Ceredigion.Diolch am eich ymrwymiad parhaus i bobl ifanc a gwaith ieuenctid yn y sir. Cofion cynnes,
Dear Colleagues and Partners,

We are pleased to share that Ceredigion Youth Service has launched a county-wide engagement exercise to inform the development of a new Ceredigion Youth Work Strategy. In response to the recent confirmation by Lynne Neagle MS, Cabinet Secretary for Education which can be accessed here  Written Statement: A national body and statutory framework for youth work  – we are pleased that we can proceed to engage with young people and our key partners to develop a five year strategic plan for Youth Work, which will strengthen youth services in Ceredigion. You can read more about the directions and statutory guidance here Youth work in Wales: delivering for young people.Our new five year strategy is a vital opportunity to shape the future of youth work in Ceredigion, ensuring it reflects the voices of young people, the needs of local communities, and the priorities of partners across statutory, voluntary, and community sectors. We are also taking the opportunity to engage with young people about our youth justice team, which is now part of the wider youth service. As a key partner, your support is crucial. We kindly ask you to please:Complete the engagement survey yourselves Share the link within your networks and young people Encourage young people, families, schools, professionals and communities to take partEvery response will directly influence: The strategic direction of the Youth ServiceFuture investment prioritiesThe development of inclusive, relevant, and evidence-led youth provisionFor the Full details and to access the engagement surveys, please go to: https://www.ceredigion.gov.uk/resident/news/2026/ceredigion-youth-service-launches-engagement-to-shape-a-new-strategy/We would be extremely grateful for your help in actively promoting this opportunity, ensuring we hear from as wide and diverse a range of voices as possible across Ceredigion.Thank you for your ongoing commitment to young people and youth work in the county. Kind regards,

Gethin 

Gethin Jones

Rheolwr Corfforaethol / Corporate Manager

Gwasanaeth Ieuenctid / Youth Service   

Archebwch amser gyda fi / Book time with me 

07966 249007

Porth Cymorth Cynnar

porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk

Cyngor Sir CEREDIGION County Council,

Canolfan Rheidol,

Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr,

SY23 3UE

Categories: Newyddion


Datblygwyd y wefan gan | Website developed by Elfed Jenkins