Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn gofyn am adborth ar droseddu ac anhrefn yn y sir a hynny drwy holiadur cyhoeddus. Rôl y Bartneriaeth yw gweithio gyda’i gilydd i amddiffyn cymunedau lleol rhag troseddau ac i helpu pobl i deimlo’n fwy diogel. Rhan bwysig o’r gwaith yma yw nodi ac archwilio’r materion cyfoes a bygythiadau posib a allai gael effaith ar Geredigion yn y dyfodol.

Bydd yr holiadur hwn yn cynorthwyo’r Bartneriaeth i nodi’r prif faterion sy’n effeithio ar yr ardal leol, i gael cipolwg ar faterion pwysig megis ofn troseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnydd cyffuriau ac alcohol, yn ogystal â chynorthwyo i ddyrannu adnoddau yn effeithiol a blaenoriaethu gweithgarwch. Bydd yr adborth a gasglir yn rhoi sylfaen dystiolaeth i lywio Cynllun Gweithredu nesaf Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion.

Gellir ymateb ar-lein neu drwy lawrlwytho’r ffurflen ymateb a’i dychwelyd drwy e-bost neu ei phostio i’r cyfeiriad a nodir ar waelod y ffurflen. Mae copïau papur o’r holiadur hefyd ar gael yn holl lyfrgelloedd Ceredigion, gan gynnwys y faniau llyfrgell symudol. Os ydych angen rhagor o wybodaeth, neu angen y dogfennau mewn fformat arall, ffoniwch 01545 570881 neu drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Ymgynghoriadau Cyngor Sir Ceredigion. Mae’r holiadur ar agor o hanner dydd ar 31 Ionawr 2023 hyd at hanner dydd ar 28 Mawrth 2023.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech rannu’r wybodaeth uchod ynglŷn â’r ymgysylltu gyda’ch cysylltiadau os gwelwch yn dda a’u hannog i ymateb.

Cofion cynnes,

Tîm Partneriaethau

Categories: Newyddion


Datblygwyd y wefan gan | Website developed by Elfed Jenkins