Bwletin Tlodi Ceredigion – Costau Teuluol

Pwnc y bwletin nesaf – ar 19 Ionawr – bydd ‘Cadw’n cynnes yn y cartref’. Os hoffech gynnwys rhywbeth yn y bwletin hyn, anfonwch y wybodaeth i ni, yn ddwyieithog os yn bosib, erbyn 17 Ionawr.

Cymorth i dalu am Gofal Plant

Sicrhewch 30 awr o ofal plant i blant 3 a 4 oed yng NghymruCynnig Gofal Plant i Gymru – Cyngor Sir Ceredigion

Gofal Plant Di-dreth Ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio, gan gynnwys yr hunan-gyflogedig, yn y DU Gwneud cais am ofal plant sy’n rhydd o dreth – GOV.UK (www.gov.uk)

Credyd Cynhwysol ar gyfer Gofal Plant i deuluoedd sy’n gweithio sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru Costau gofal plant Credyd Cynhwysol – GOV.UK (www.gov.uk)

Mae rhagor o wybodaeth ar gael: Childcare Choices | 30 Hours Childcare, Tax-Free Childcare and More | Help with Costs | GOV.UK – Yn Saesneg yn unig ma’r ddolen yma. Sicrhewch eich bod yn clicio ar ‘Wales’ gan fod pob gwlad yn wahanol.

Cymunedau Digidol Cymru – Cylchlythyr Rhagfyr 2023

Cliciwch yma i weld y cylchlythyr – response.gv-c.com/Mail/View/108191?a=377E1973E7A42B9C788B0E24A4E9949B&r=0282A3A4B72D253DB05D5B4CF9997928&t= 

 

Camau Bach Brwydrau Mawr, Gofal Plant yng Nghymru – Adroddiad Ymchwil

Cynhaliwyd ymchwil gan Oxfam Cymru i ddeall profiadau rhieni gyda darpariaeth a chefnogaeth gofal plant yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn rhoi dadansoddiad manwl o bylchau mewn gwasanaethau gofal plant yng Nghymru ac yn amlygu’r gydberthynas rhwng gofal plant a thlodi. Mae hefyd yn dangos effaith costau ac anghenion gofal plant ar gyllid teuluoedd a chyflogaeth rhieni/gwarcheidwaid. Mae’r adroddiad yn cynhyrchu argymhellion adeiladol i sicrhau gwell system gofal plant yng Nghymru.

Gallwch weld yr adroddiad trwy’r dolenni canlynol: https://t.co/KJON38v7DC

Cyhoeddi dyddiadau Talu Costau Byw 2023/24

Ar 13 Rhagfyr, cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd miliynau o aelwydydd y DU yn cael Taliad Costau Byw o £299 cyn bo hir. Bydd y taliad hwn yn cael ei wneud i hawlwyr cymwys ar fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd rhwng dydd Mawrth 6 Chwefror  a dydd Iau 22 Chwefror.

Dyma’r trydydd o dri thaliad dros y flwyddyn ariannol sy’n dod i gyfanswm o hyd at £900. Bydd cwsmeriaid yn derbyn y taliadau yn awtomatig. Nid oes angen iddynt gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau na gwneud unrhyw beth i dderbyn y taliad.

Os oes gan aelwyd hawl ôl-weithredol i Daliad Cost Byw neu os yw rhywun yn credu bod ganddynt hawl ond nad ydynt yn derbyn un, gallant roi gwybod am hyn ar GOV.UK o 23 Chwefror.

Banciau Dillad Plant a Babanod. 

Dewch o hyd i’ch Banc Bwndel Babi – Plant Dewi agosaf.

Mae gan Hyb Cymunedol y Borth ystod eang o ddillad plant ar gyfer plant hyd at 11 oed. Mae ganddynt hefyd rai llyfrau hyfryd i’w rhoi mewn fel bwndeli llyfrau.  Os hoffai unrhyw un gael bwndel, dim ond anfon e-bost rachel1@borthcommunityhub.co.uk

Elusen Henry Smith – grantiau gwyliau i blant  

Mae Elusen Henry Smith yn cynnig grantiau i gefnogi teithiau hamdden neu wyliau i grwpiau o blant sy’n profi anfantais neu sydd ag anableddau. Mae’n rhaid i’r rhain ddigwydd yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n rhaid i blant fod yn 13 oed neu’n iau. Mae ceisiadau’n cael eu derbyn tan 19 Mawrth 2024 ar gyfer teithiau sy’n digwydd rhwng 15 Ionawr a 30 Ebrill 2024. 

Urddas Mislif yng Ngheredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â Chyngor Ieuenctid Ceredigion yn anelu at hyrwyddo urddas mislif a mynd i’r afael â thlodi mislif drwy ddefnyddio Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru: Urddas Mislif yng Ngheredigion – Cyngor Sir Ceredigion sy’n dangos lle mae pobl yn gallu ddod o hyd i gynhyrchion mislif am ddim.

Prydau Ysgol am Ddim

Prydau Ysgol am Ddim – Cyngor Sir Ceredigion ar gael i ddisgyblion cymwys sy’n mynychu ysgolion, yn llawn amser, a reolir gan Awdurdod Addysg Ceredigion.

Grant Hanfodion Ysgol

Mae’r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i blant a phobl ifanc sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYDd), Plant sy’n Derbyn Gofal, a’r rhai nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus o’r flwyddyn dderbyn i Flwyddyn 11. Am fwy o wybodaeth Grant Hanfodion Ysgol – Cyngor Sir Ceredigion

Ewch i wefan y Cyngor Sir am wybodaeth am chymorth costau byw :Cymorth Costau Byw – Cyngor Sir Ceredigion

Bydd y bwletin nesa’ yn dod allan ar 19.01.24. Byddwn yn ffocysu ar ‘Cadw’n cynnes yn y cartref’. Os gwelwch yn dda, danfonwch wybodaeth perthnasol i partnerships@ceredigion.gov.uk erbyn 17.01.24 er mwyn i ni gael cynnwys yn y bwletin.

Clic – Customer Service Centres

clic@ceredigion.gov.uk

Nodwch y dylid cyfeirio’r holl ymholiadau i Gyngor Sir Ceridigion drwy’r system Clic yn y lle cyntaf. Yma byddant yn cael eu didoli ac yna eu hanfon ymlaen at yr adran gywir i’w hystyried.

Dylid derbyn atebion o fewn 14 diwrnod.

Cyngor Sir Ceredigion

www.ceredigion.gov.uk

Cynllunio Cyngor Sir Ceredigion

https://www.ceredigion.gov.uk/resident/planning-building-control-and-sustainable-drainage-body-sab/planning-applications/

Eryl Evans – Y Cynghorydd Sir

eryl.evans@ceredigion.llyw.cymru

Tel No: 0797 770083

Elin Jones AA

elin.jones@senedd.cymru

Tel No: 01970 624516

Ben Lake AP dros Geredigion

ben.lake.mp@parliament.uk

Tel No: 01570 940333


Cellan WI – Facebook

https://www.facebook.com/people/Cellan-WI/100064794606409/

Llanfair WI – Facebook

https://en-gb.facebook.com/LlanfairClydogauWI/

Neuadd Cellan Millennium – Facebook

https://www.facebook.com/people/Cellan/100082758605899/


Datblygwyd y wefan gan | Website developed by Elfed Jenkins