Rwy’n falch o roi gwybod ichi y cafodd Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (y Bil) ei basio gan y Senedd ar 6 Rhagfyr.
Mae hwn yn gam pwysig o ran sicrhau bod Cymru’n rhydd rhag cynhyrchion plastig untro diangen. Drwy wahardd neu gyfyngu ar gyflenwad eitemau sy’n aml yn cael eu taflu fel sbwriel, byddwn yn osgoi gadael gwaddol plastig gwenwynig i genedlaethau’r dyfodol ddelio ag ef. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.
Rydym wedi llunio fersiynau cychwynnol o ffeithluniau (amgaeedig) i godi ymwybyddiaeth busnesau a phobl anabl.
O ran busnesau, mae’r wybodaeth yn nodi sut y dylent baratoi ar gyfer y gwaharddiadau, ac o ran pobl anabl, mae’r wybodaeth yn nodi sut y gall pobl anabl gael gafael ar wellt plastig untro o hyd er mwyn galluogi pobl anabl y mae eu hangen arnynt i fwyta ac yfed yn ddiogel ac yn annibynnol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch nhw mewn e-bost at singleuseplasticbill@llyw.cymru