Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn falch iawn o lansio rhaglen ariannu newydd fydd yn cefnogi gofalwyr di-dâl yn byw yng Nghymru i allu cael seibiant byr o’u rôl ofalu. Gydag arian gan Lywodraeth Cymru, mae’r rhaglen newydd o’r enw Amser yn agored i fudiadau Trydydd Sector ac mae’n canolbwyntio ar ddarparu dewis o gyfleoedd seibiannau byr i ofalwyr di-dâl ymhob cymuned ledled Cymru yn ystod 2023/2024 a 2024/25.
Mae cylch cyntaf arian Amser ar agor yn awr a bydd yn cau ar gyfer ceisiadau ar 6 Chwefror.
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn gobeithio penodi tîm o aseswyr annibynnol llawrydd all ein helpu i adolygu ceisiadau a gwneud dadansoddiad gwybodus a gwrthrychol o’r wybodaeth a ddarparwyd a chynhyrchu adroddiad ysgrifenedig i’w ystyried gan y Panel Grantiau Ymgynghorol. Bydd hon yn rôl ddiddorol ac yn un fydd yn rhan ganolog o’r broses benderfynu ar ddyfarnu grantiau.
Oherwydd y cyfnod byr sydd ar gael i gwblhau’r cylch cyntaf o grantiau, bydd angen i aseswyr fod ar gael o 9 Chwefror tan 6 Mawrth a chael cyfrifiadur a ffôn ar gael i’w defnyddio. Darperir hyfforddiant llawn ynghyd â chefnogaeth a thaliad o £75 am bob asesiad.
Dylai aseswyr fod yn barod i dderbyn isafswm o 5 asesiad, ac efallai hyd at 15 asesiad gan ddibynnu ar yr amser y gallwch ei neilltuo.
Cynhelir sesiwn hyfforddi orfodol ar-lein ar ddydd Gwener 3 Chwefror rhwng 9.30-11.30am.
Gellir gweld y disgrifiad rôl yma. Er mwyn cael trafodaeth anffurfiol am y rôl e-bostiwch Ellie, elogan@carers.org mailto:elogan@carers.org
I wneud cais dylech e-bostio llythyr cais yn datgan sut rydych yn cyflawni gofynion y disgrifiad rôl a chopi o’ch CV at shortbreakswales@carers.org mailto:shortbreakswales@carers.org
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am ar ddydd Iau 26 Ionawr a chynhelir cyfweliadau anffurfiol ar ddydd Mawrth 31 Ionawr.