Mae cyngor cymuned Llanfair Clydogau yn cynnwys yr holl blwyfi neu bentrefi o adeg cyfnod Sir Aberteifi sef Llanfair Clydogau a Chellan.

Ym mis Rhagfyr 1894, fe wnaeth Llanfair a Chellan fel ardaloedd eraill yng Nghymru greu strwythur llywodraeth leol newydd wedi’i seilio ar uned weinyddol y plwyf. Felly, etholwyd cynghorau plwyfi seciwlar a oedd yn wahanol i’r strwythur cynharach eglwysig. Roedd gan bob un o’r cynghorau etholedig glerc apwyntiedig a chyfarfodydd lle gallai’r etholwyr dynnu sylw’r aelodau at unrhyw bwnc lleol a achosai bryder iddynt, sut i weithredu neu i gyfeirio’r mater at Gyngor Sir Aberteifi – corff a oedd gyda llawer mwy o adnoddau ariannol a phwer cyfreithiol i weithredu. Materion a drafodwyd yn y dyddiau cynnar hynny oedd ysgolion, llifogydd, pontydd afonydd, cyflyrau’r heolydd a thipio sbwriel. Fel newidiodd cymdeithas fe newidiodd y materion a godwyd yn y cyfarfodydd. Yng nghanol yr ugeinfed ganrif fe gynhwyswyd er enghraifft trydaneiddio’r ardaloedd gwledig a gwasanaethau ffôn gan gynnwys darpariaeth blychau ffôn. Yn 1894 roedd naw aelod ar gyngor plwyf Llanfair ac fe wnaeth 16 o bobl ymgeisio am le arno. Cafodd John Evans o Siop Llanfair ei ethol fel y cadeirydd cyntaf. Roedd saith aelod o Gellan ac etholwyd Evan Andrew Davies, Bayliau fel y cadeirydd cyntaf.

Ym mis Ebrill 1974 newidiwyd enwau’r ddau blwyf o gyngor plwyf i gyngor cymuned, gwnaed hyn dros Gymru gyfan.

Cyngor Cymuned Llanfair Clydogau a Chellan unedig

Yn 1987 fel rhan o arolwg llywodraeth leol yng Ngheredigion fe gariwyd allan ymgynghoriad helaeth er mwyn ceisio creu unedau llywodraeth leol mwy o faint. Canlyniad hyn oedd i’r Cyngor Sir benderfynu i greu “cymuned newydd o Lanfair Clydogau, yn cynnwys cymuned presennol Llanfair Clydogau a chymuned presennol Cellan”. Penderfynwyd dylai’r gymuned gael cyngor o 10 aelod o’r ddau ward:

  • Ward Llanfair Clydogau gyda 5 cynghorwr
  • Ward Cellan gyda 5 cynghorwr

Cynghorwyr Cymunedo

Etholir y cynghorwyr cymunedol o’u hetholaeth am gyfnod o 4 blynedd.

Mae’r cyngor cymuned yn cwrdd bob yn ail chwech wythnos yn Neuadd Bentre Llanfair a Neuadd y Mileniwmm, Cellan. Y patrwm presennol yw cynnal y cyfarfod ar nos Iau am 7.30 o’r gloch.

Arddangosir hysbysiad ac agenda pob cyfarfod ar fyrddau arddangos yng Nghellan a Llanfair.

Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd fynychu’r cyfarfod a gwrando ar y trafodaethau.

Cadeiryddir y cyfarfod gan y cadeirydd etholedig am y flwyddyn ariannol.

Apwyntiwyd clerc gan y cynghorwyr i fod yn gyfrifol am hybysebu’r cyfarfod a’r agenda.

Mae’r cyngor cymuned yn gosod taliad cymunedol blynyddol neu gwirdeb ar bob teulu er mwyn ariannu eu gweithgareddau. Yn 2014 roedd e’n £3,500 ac nid yw wedi newid ers sawl blwyddyn. Cesglir ef gan y Cyngor Sir a dylid nodi nad yw’r cynghorwyr yn cael eu talu.

Mae’r cyngor yn berchen ar 2 hen flwch ffôn “British Telecom”, un yng nghanol Cellan a’r llall yng Nglanrhyd yn Llanfair. Maent wedi eu cadw am resymau hanesyddol. Hefyd mae’n berchen a chynnal pedwar bin sbwriel yn yr ardal a nifer o finiau graean.

Dyma rai o’r prif faterion a drafodwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf sef

  • Sylwadau ar bob cais cynllunio lleol a dderbyniwyd oddiwrth yr adran gynllunio
  • Sylwadau ar bob dogfen ymgynghorol a dderbyniwyd oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion megis strwythur cynllunio lleol, rhwystro llifogydd a dosbarthu gwasanaethau lleol.
  • Materion yn ymwneud a thrafnidiaeth ysgol a gweithredu fel cwndid rhwng y boblogaeth leol a’r adran addysg lleol
  • Cynhaliaeth ffyrdd.
  • Cyflymder traffig.
  • Atgyweirio a chynnal pontydd
  • Effaith rhew ac eira ar yr heolydd a’r angen i gynyddu nifer y biniau graean.
  • Casgliadau sbwriel a’u gwarediad er mwyn sicrhau cymunedau taclus.
  • Cynlluniau’r Bwrdd Iechyd a dosbarthiad gwasanaeth.
  • Cynorthwyo cynrychiolwyr y gwahanol gapeli a’r eglwysi trwy roi grantiau ariannol a chynnal y mynwentydd yn y ddau bentref.
  • Adeiladu heb ganiatad cynllunio.
  • Cydweithredu gyda Heddlu Dyfed Powys.

Datblygwyd y wefan gan | Website developed by Elfed Jenkins